Canllawiau ar wneud Cais
Rydym am eich cynorthwyo, am sicrhau eich bod yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo gyda’ch cais am swydd gyda ni. Rydym wedi paratoi canllawiau, sy’n darparu gwybodaeth ac argymhellion i’ch helpu chi drwy bob cam o’r broses ymgeisio.
Arweiniad i Ymgeiswyr – Ysgrifennu cais am swydd


Gwybodaeth i Ymgeiswyr Rhyngwladol
Mae Met Caerdydd yn brifysgol fyd-eang gyda rhwydwaith eang o bartneriaid addysgol rhyngwladol, swyddfeydd, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ym mhedwar ban byd. Gyda’i chartref yn ninas amrywiol Caerdydd, rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol, gan wasanaethu nid yn unig ein cymunedau lleol yng Nghymru, ond hefyd ledled y byd. Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i ddarpar aelodau staff o bob gwlad a chenedl, ac yn ceisio darparu pontio croesawgar i fyw a gweithio yn y DU. Cymerwch gip ar rai o’n hadnoddau isod.
Ein Tîm
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y broses recriwtio, e-bostiwch ni ar staffrecruitment@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2041 7317.
Mae Met Caerdydd yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu â chi yn eich iaith o ddewis, boed yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, cyn belled eich bod yn rhoi gwybod i ni beth yw’ch dewis chi. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.
Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd uchod i gael gwybodaeth am y data a gasglwn.