Canllawiau ar wneud Cais
Rydym am eich cynorthwyo, am sicrhau eich bod yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo gyda’ch cais am swydd gyda ni. Rydym wedi paratoi canllawiau, sy’n darparu gwybodaeth ac argymhellion i’ch helpu chi drwy bob cam o’r broses ymgeisio.
Arweiniad i Ymgeiswyr – Ysgrifennu cais am swydd
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eich cais am swydd
Gwybodaeth i Ymgeiswyr Rhyngwladol
Mae Met Caerdydd yn brifysgol fyd-eang gyda rhwydwaith helaeth o bartneriaid addysgol rhyngwladol, swyddfeydd, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ledled y byd. Wedi’n lleoli yng nghanol dinas amrywiol Caerdydd, rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd gwaith cynhwysol, gan wasanaethu nid yn unig ein cymunedau lleol yng Nghymru, ond hefyd ledled y byd.
Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i ddarpar aelodau staff o bob gwlad a chenedligrwydd, ac yn anelu at ddarparu trosglwyddiad croesawgar i fyw a gweithio yn y DU.
Cymerwch gip ar y gwybodaeth ddefnyddiol isod.
Ein Tîm
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y broses recriwtio, e-bostiwch ni ar staffrecruitment@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch 029 2041 7317.
Mae Met Caerdydd yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu â chi yn eich iaith o ddewis, boed yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, cyn belled eich bod yn rhoi gwybod i ni beth yw’ch dewis chi. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi.
Edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd uchod i gael gwybodaeth am y data a gasglwn.
