Gwyliau blynyddol

Graddau 1-5:

Yr hawl gwyliau blynyddol llawn amser yw 25 diwrnod yn eich blwyddyn gyntaf, yn codi i 30 diwrnod ar 1 Medi, yn amodol ar flwyddyn o wasanaeth di-dor.

Yn ogystal â hyn, mae staff ar bob gradd yn cael 12 diwrnod statudol (pro rata fel y bo’n briodol).

Graddau 6-9:

Yr hawl gwyliau blynyddol llawn amser yw 35 diwrnod.

Yn ogystal â hyn, mae staff ar bob gradd yn cael 12 diwrnod statudol (pro rata fel y bo’n briodol).

PDR

Yr hawl gwyliau blynyddol llawn amser yw 25 diwrnod yn eich blwyddyn gyntaf, yn codi i 30 diwrnod ar 1 Medi, yn amodol ar flwyddyn o wasanaeth di-dor.

Yn ogystal â hyn, mae staff ar bob gradd yn cael 12 diwrnod statudol (pro rata fel y bo’n briodol).

Cyswllt Trosglwyddo Gwybodaeth

Yr hawl gwyliau blynyddol llawn amser yw 20 diwrnod, ac 8 gŵyl banc ychwanegol.

Yn ogystal â hyn, mae staff ar bob gradd yn cael 12 diwrnod statudol (pro rata fel y bo’n briodol).

Mae gwyliau blynyddol yn cael eu rheoli’n lleol yn eich ysgol neu uned. Gallwch archebu gwyliau blynyddol drwy fynd i MyMet trwy InSite, sef mewnrwyd y Brifysgol.

MetCard

Bydd eich MetCard yn rhoi mynediad i chi i unrhyw ardaloedd perthnasol o’r campws, yn ogystal â’ch galluogi i argraffu o’r peiriannau hunanwasanaeth.

Byddwch yn derbyn eich MetCard ar eich diwrnod cyntaf.

MetActive

Mae MetActive yn cynnig amrywiaeth o wahanol raglenni i bob gallu. Mae ein haelodaeth pris gostyngol, gwych i staff yn rhoi mynediad i chi i’r cyfleusterau a’r rhaglenni rhagorol sydd ar gael yma ym Met Caerdydd.

Wedi’n lleoli ar gampws Cyncoed a Llandaf, ein nod yw effeithio ar holl staff Met Caerdydd.

Mae Tîm Met Active yn weithwyr ffitrwydd proffesiynol cymwysedig a phrofiadol iawn sy’n gallu darparu pob math o arbenigedd hyfforddiant i gleientiaid i gyflawni unrhyw nod iechyd a ffitrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys Dosbarthiadau (o yoga i Bootcamp), rhaglenni personol, hyfforddiant personol neu air o gyngor, ac maen nhw ar gael wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.

Lawrlwythwch Ap Chwaraeon Met Caerdydd o’r App Store neu Google Play i gael y wybodaeth ddiweddaraf am beth sydd ar gael gan MetActive a Met Caerdydd.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned MetActive yn fuan!

Caplaniaeth ac ystafelloedd gweddïo

Mae’r Tîm Caplaniaeth yn adnodd bugeiliol ar gyfer holl gymuned Met Caerdydd. Mae yna gyfleusterau ar gyfer gweddïo a myfyrdod tawel ar bob campws i staff o bob ffydd. Dyma fanylion yr ystafelloedd:

Llandaf: A0.22 (Menywod) ac A0.23 (Dynion). Mae yna gyfleusterau pureiddio yn y ddwy ystafell.

Cyncoed: B009. Mae cyfleusterau pureiddio yn y sba traed gyferbyn â C0.23.

Gallwch gerdded i Eglwys Gadeiriol Llandaf mewn pum munud o gampws Llandaf a gellir ei defnyddio gydol y dydd.

Ystafelloedd rhianta

Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau gorffwys, bwydo ar y fron/tynnu llaeth ar y ddau gampws i gynorthwyo rhieni sy’n gweithio, astudio neu’n ymweld â’r brifysgol.

Mae dwy Ystafell Rianta breifat a chroesawgar ar gael i unrhyw un sydd angen diwallu anghenion gofal plentyn, yn cynnwys bwydo a newid. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys cyfleusterau hefyd ar gyfer mamau sy’n bwydo ar y fron, i dynnu llaeth.

Mae’r ystafelloedd yn cynnwys soffas, oergelloedd, cyfleusterau newid babi, microdonau a chynhyrchion diheintio dwylo. Mae’r ddwy ystafell yn hygyrch heb fod angen cael allwedd neu archebu. Mae gan y ddwy arwydd ‘Vacant / In Use’ y gellir ei newid cyn mynd i mewn ac mae’n bosib cloi’r ystafell i’w gwneud yn breifat. Dyma fanylion yr ystafelloedd:

Llandaf: T0.07d

Cyncoed: C0.28c

Cyfleusterau Arlwyo ac Ap Met Rewards

Met rewards yw’r ap symudol sy’n eich galluogi chi i ennill pwyntiau teyrngarwch a gwobrau mewn unrhyw gaffi a bwyty ym Met Caerdydd. Lawrlwythwch yr ap o’r App Store neu Google Pay!

Mae yna lawer o lefydd gwahanol ar ein campysau i brynu bwyd a diod.

Mae’r cyfleusterau wedi’u lleoli:

Yng Nghyncoed

Bwyty K1 – ger y brif dderbynfa

The Bench Café – ger campfa MetActive

The Track – yn yr Athletau Dan Do Cenedlaethol

Centro (Bar Undeb y Myfyrwyr) – nesaf at fynedfa Bloc C


Yn Llandaf

Cwrt Bwyd CSM Atrium  –yn yr Ysgol Reoli

The Gallery – uwchben yr I-Zone ger y brif dderbynfa

The Box Café – yn yr Ysgol Gelf a Dylunio

The Hub Café – ym mhen blaen campws Llandaf

Health Assured

Gall yr holl staff craidd a’u teulu agosaf fanteisio ar y Rhaglen Cymorth i Weithwyr am ddim a ddarperir gan Health Assured. Maent yn darparu cymorth llesiant arbenigol annibynnol yn gyfrinachol.

Mae’r cymorth a ddarperir yn cynnwys:

  • Llinell gymorth gyfrinachol 24/7 am ddim i ddefnyddio’r holl wasanaethau yn cynnwys cymorth o bob math o gwnsela ffurfiol i bryderon tai/tenantiaeth/dyledion a gwybodaeth gyfreithiol bersonol a chymorth gyda threthi. Bydd eich galwad yn cael ei hateb gan gwnselydd hyfforddedig a fydd yn eich cyfeirio at y cymorth priodol.
  • Porth llesiant ar-lein.
  • Mynediad am ddim i’r ap ffôn symudol ‘Wisdom’, sy’n darparu gwybodaeth ddibynadwy am lesiant a dulliau/technegau ymarferol i’w ddefnyddio yn y fan a’r lle.
  • Mae Health Assured yn gweithredu’r gwasanaeth hwn yn gwbl annibynnol a chyfrinachol. Yr unig wybodaeth y byddant yn ei rhannu â’r Brifysgol fydd data defnydd dadansoddol (heb ffactorau adnabod) fel y gallwn fod yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd uchel/isel ac unrhyw themâu sy’n datblygu y gallai fod angen mynd i’r afael â nhw ar draws y brifysgol.
Iechyd a llesiant

Mae yna gasgliad o adnoddau ar gael ar InSite i’ch cynorthwyo chi i gynnal eich llesiant.

Mae’r Brifysgol yn cynnig y mentrau canlynol hefyd am bris gostyngol i staff:

Cynlluniau arian iechyd drwy Gymdeithas Ysbytai Cymru a Health Shield.

Rhwydweithiau staff

Mae rhwydweithio â phobl o’r un anian yn ffordd wych o gael y gorau o weithio ym Met Caerdydd.

Mae rhwydweithiau’n cyfarfod yn ffurfiol o leiaf unwaith y tymor, gan gynnal cyfarfodydd â ffocws a digwyddiadau cymdeithasol agored am yn ail, lle mae aelodau’n cael cyfle i gymdeithasu. Maent yn ffordd wych o rwydweithio, creu cysylltiadau, rhannu profiadau, trefnu digwyddiadau a dylanwadu a sbarduno newid cadarnhaol.

– Rhwydwaith Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
– Rhwydwaith Anabl.
– Rhwydwaith Rhyngwladol.
– Rhwydwaith LHDTC+.
– Rhwydwaith y Gymraeg.
– Rhwydwaith Menywod.

I gael gwybod mwy am ein rhwydweithiau staff ewch i’r tudalennau rhwydweithiau ar InSite.

Sefydlu

Bydd eich cyfnod sefydlu’n cynnwys:

Yn ogystal, bydd staff academaidd yn cwblhau:

  • Moeseg Ymchwil: e-fodiwl – i’w cwblhau o fewn y pedwar wythnos cyntaf.
  • Sefydlu Academaidd: sesiwn fyw – i’w cwblhau o fewn y tri mis cyntaf.

Bydd eich rheolwr neu berson dynodedig/cyfaill yn darparu gwybodaeth sefydlu leol i chi i roi gwybod i chi am y trefniadau iechyd a diogelwch allweddol, y gweithdrefnau lleol a gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’ch swydd newydd. Bydd eich rheolwr llinell yn anfon dolenni i’r e-fodiwlau hanfodol atoch chi.

Sefydlu academaidd

Sefydlu Academaidd: sesiwn fyw. (Os ydych yn gydweithiwr academaidd)

Mae’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Gwella’n darparu diwrnod sefydlu llawn ar hanfodion addysgu a dysgu ym Met Caerdydd. Byddwch yn archwilio egwyddorion sylfaenol neu ymarfer addysgegol ac yn dysgu am ofynion strategol a pholisi’r rôl addysgu er mwyn sicrhau’r dysgu gorau i fyfyrwyr, a chydymffurfio â safonau’r Brifysgol.

Gallwch archebu Sefydlu Academaidd drwy Learning Pool.

E-fodiwl Moeseg Ymchwil. Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad i foeseg ymchwil gyda ffocws ar rolau sy’n cymeradwyo cymwysiadau moeseg. Mae’r modiwl:

  • yn darparu cyflwyniad byr i foeseg ymchwil;
  • yn amlinellu prif egwyddorion moeseg ymchwil;
  • yn ymdrin â materion moesegol pwysig sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf o brosiectau ymchwil;
  • yn darparu dwy enghraifft senario cymeradwyo prosiect ymchwil o fywyd go iawn;
  • yn nodi ffynonellau gwybodaeth am foeseg.
Gwasanaethau Digidol a Llyfrgell

Cewch ddefnyddio Canolfannau Dysgu’r Brifysgol a byddwch yn gymwys i fenthyg hyd at ddeg llyfr ar hugain ar y tro. Cewch ddefnyddio pob math o e-gynnwys drwy ein gwasanaeth darganfod llyfrgell, MetSearch.

Dim ond ffonio neu e-bostio ein Desg Gymorth TG a’n cynghorwyr TG sydd raid i gael cymorth i ddatrys unrhyw broblemau TG. Mae ein gwasanaeth hyfforddiant sgiliau digidol ar gael i sicrhau eich bod chi’n datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy rydych eu hangen yn eich swydd ym Met Caerdydd a thu hwnt.

Trwy ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi gan y Ddesg Gymorth TG ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk gallwch fynd i’ch e-bost staff a’r rhwydwaith cyfrifiadurol. Dim ond ar ôl i chi fewngofnodi y bydd y rhan fwyaf o ddolenni ar gael.

Datblygu sefydliadol

Mae’r tîm Datblygu Sefydliadol yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a chyfarwyddiaethau i gefnogi blaenoriaethau strategol, diwylliant a gaiff ei lywio gan werthoedd a chefnogi newid effeithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy brosiectau a mentrau datblygu sefydliadol ac yn datblygu a darparu cyfleoedd datblygu pwrpasol i ysgolion/cyfarwyddiaethau, timau ac unigolion.

Mae’r tîm Datblygu Sefydliadol yn cynnig nifer o gyfleoedd datblygu i’n pobl yn cynnwys:

  • Rhaglenni arweinyddiaeth a datblygu.
  • Cyrsiau byr, pecyn cymorth datblygu ar-lein Leading Lights ac e-fodiwlau.
  • Mentrau datblygu allanol fel Aurora, W30/50, WHEELP, SWIMM ac Academi Wales.
  • Timau swyddogaethol cymorth datblygu sefydliadol drwy Insights Discovery®, hwyluso digwyddiadau timau.
  • Hyfforddi timau/unigolion.

Os ydych chi’n ymuno â ni fel rheolwr llinell, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gwblhau ein rhaglen Rheoli@Met. Mae Rheoli@Met yn gyfres hanfodol o sesiynau bach i wella gallu a chysondeb yn rheolaeth ein pobl ar draws Met Caerdydd, a rhaid eu cwblhau o fewn blwyddyn i’ch dyddiad cychwyn.

Dysgwch fwy drwy fynd i Learning Pool.

Trafnidiaeth

Rydych yn cael aelodaeth am ddim o Ovo (Next bikes) ac mae yna orsafoedd beiciau ar bob campws. Mae yna lochesi beiciau diogel, loceri a chawodydd ar Gampws Llandaf a Chyncoed i wneud beicio i’r gwaith yn fwy deniadol.

Mae’r cynllun Beicio Staff yn eich galluogi chi i brynu beic newydd drwy ddidyniadau cyflog ac arbedion treth. Mae ffenestri prynu newydd a manylion sut i gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi ar InSite.

Mae sesiynau Dr Bike misol lle gallwch gael MOT am ddim i’ch beic yn cael eu cynnal ar y ddau gampws fel rhan o’r Diwrnod Cymunedol.

Mae’r Met Rider yn rhedeg llai o fysiau eleni rhwng Campysau Cyncoed a Llandaf. Gallwch wneud cais am docyn bws rhatach Met Caerdydd sy’n rhoi mynediad am ddim i wasanaethau Bws Caerdydd.

Os ydych chi’n bwriadu gyrru i’r gwaith bydd angen i chi ddangos cerdyn parcio dilys. Er mwyn gwneud cais am docyn 12 mis (y telir amdano drwy’ch cyflog) neu gerdyn talu ac arddangos, gwnewch gais yma.

Mae cyfyngiad parcio ychwanegol ar waith i staff ar gampws Llandaf ac sy’n byw o fewn 2 milltir i’r campws.

Cyflogres a phensiynau

Byddwch yn cael eich talu ar y dyddiau canlynol yn unol â’ch swydd:

Gwasanaethau Proffesiynol: 15fed o bob mis
Staff achlysurol: 10fed o bob mis
Staff Academaidd: 28ain o bob mis

Os yw’ch dyddiad talu ar benwythnos byddwch yn cael eich talu ar y dydd Gwener cynt. Mae eich slip cyflog i’w gael drwy MyMet.

Mae gennym y cynlluniau pensiwn canlynol:

  • LGPS (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol).
  • TPS (Cynllun Pensiwn Athrawon)
  • USS (Cynllun Pensiynau Prifysgolion).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar mewnrwyd y Brifysgol, Insite gan clicio yma.

Ein Undebau Llafur Cydnabyddedig

Hoffem eich croesawu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd a manteisio ar y cyfle hwn i’ch cyflwyno i ddau Undeb Llafur cydnabyddedig Met Caerdydd, y gallwch ymuno â nhw. Mae gan Met Caerdydd aelodaeth undebau weithredol a bywiog sy’n cynnig llu o fuddion.

UCU yw’r Undeb Llafur cydnabyddedig ar gyfer cydweithwyr academaidd.

Ymuno â Changen UCU Met Caerdydd

E-bostiwch swyddfa’r gangen yn: ucu@cardiffmet.ac.uk

Dilynwch ni ar Twitter: @ucucardiffmet
Dilynwch ni ar Facebook: @ucucardiffmet

 

UNSAIN yw’r Undeb Llafur cydnabyddedig ar gyfer yr holl staff gwasanaethau proffesiynol.

Ymuno â Changen UNSAIN Met Caerdydd

I gael rhagor o wybodaeth am ein cangen, ewch i’n gwefan: https://cardiffmetuniversity.unison.site/
E-bostiwch ni ar: unisonbranchoffice@cardiffmet.ac.uk

Dilynwch ni ar Twitter: @UNISON_CDFMet

Os ydych chi’n aelod o un o’r undebau hyn eisoes, bydd angen i chi hysbysu naill ai UCU neu UNSAIN eich bod wedi newid eich lleoliad gwaith fel y gallwch gael eich cyfrif yng nghyfanswm aelodaeth Met Caerdydd.