Swyddi Gwag Diweddaraf
Yn anffodus nid oes unrhyw swyddi gwag Uwch Arweinwyr ar hyn o bryd. Edrychwch ar ein cyfleoedd eraill, neu gofrestru i dderbyn hysbysiadau swyddi heddiw!

Strategaeth 2030
Yn ddiweddar rydym wedi adnewyddu ein Strategaeth Met Caerdydd 2030 gyda’r nod o fireinio ein nodau i wella profiad myfyrwyr, cynyddu cynhwysiant, cynyddu effaith ymchwil, meithrin arloesedd, a dyfnhau ymgysylltiad cymunedol.
Ein huchelgais yw bod yn enwog fel Prifysgol flaenllaw, sy’n nodedig ac yn flaengar. Byddwn yn adeiladu ac yn cynnal enw da am brofiad a chanlyniadau rhagorol i fyfyrwyr, partneriaethau proffesiynol arloesol, a chyrhaeddiad ac effaith leol, genedlaethol a byd-eang sylweddol.
Bydd ein profiadau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn cael eu llywio gan ymchwil ac arloesi cymhwysol rhagorol, gan drawsnewid bywydau a chymunedau yng Nghymru a’r byd ehangach.
Ein Pobl –
Byw ein Gwerthoedd
Mae ein diwylliant perfformiad uchel yn cael ei lywio gan ein harweinyddiaeth ysbrydoledig, sy’n seiliedig ar ein huniondeb a’n gwerthoedd cadarn. Mae’n gwerthoedd yn llywio’r sefydliad, gan sicrhau’r gorau gan ein myfyrwyr a’n staff. Rydym wedi ymrwymo i’n cyfrifoldebau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Mae ein haddysg, ymchwil ac arloesedd yn effeithio’n gadarnhaol ar gydraddoldeb, cynhwysiant cymdeithasol a chynaliadwyedd amgylcheddol, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Grŵp Gweithredol yr Is-Ganghellor yw uwch dîm arwain y Brifysgol ac mae’n helpu’r Is-Ganghellor i ddarparu arweiniad strategol i’r holl bortffolios Gweithredol. Cliciwch isod i ddysgu mwy am ein uwch dîm arwain.


Ein Heffaith
Ar Genedlaethau’r Dyfodol
Ers 1865, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi arwain trawsnewid addysgol a chymdeithasol, mae’n gatalydd ar gyfer arloesi, ac yn gyfrannwr allweddol at dwf cynhwysol a chynaliadwy. Mae’n hymchwil a’n harloesedd yn gweddnewid bywydau a chymunedau drwy addysg effaith uchel o ansawdd uchel.
Rydym yn gweithio gyda phwrpas, tosturi ac effaith i helpu economïau i ffynnu, cymdeithasau i ddathlu cydraddoldeb, gan gyfoethogi diwylliannau, gwella amgylcheddau a gwella iechyd ein cymunedau.
Os oes gennych hanes o gyflawniad sy’n dangos ymrwymiad, dawn a brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang, a brwdfrydedd a rennir dros ein gwerthoedd a gweledigaeth, rydym yn eich annog i ymgeisio am un o’n swyddi gwag, neu gofrestru ar gyfer hysbysiadau swyddi. Cysylltwch â’n tîm recriwtio ar staffrecruitment@cardiffmet.ac.uk neu 029 2041 7317 i gael sgwrs gyfrinachol.