Swyddi Gwag Diweddaraf
Yn anffodus nid oes gennym unrhyw swyddi gwag ar gyfer cyfleoedd academaidd ar hyn o bryd. Edrychwch ar ein cyfleoedd eraill, neu cofrestrwch i dderbyn hysbysiadau am swyddi heddiw!

Ein Portffolio Academaidd
Mae portffolio academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gogwyddo tuag at addysg ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac wedi’i gydnabod yn broffesiynol. Rydym yn chwilio am feddyliau dyfeisgar, chwilfrydig i ymuno â ni, i’n helpu i ysgogi a sicrhau newid gwirioneddol, datblygu’n enw da o ran ymchwil a gwella’n haddysgu.
Mae’r Brifysgol wedi’i threfnu’n bum Ysgol Academaidd sy’n cynnig dros 250 o wahanol raglenni academaidd a phroffesiynol:
Ein hamgylchedd gwaith
Mae diwylliant cydweithredol a chynhwysol y brifysgol yn meithrin amgylchedd lle mae safbwyntiau amrywiol yn cael eu croesawu, gan feithrin creadigrwydd a meddwl beirniadol.
Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfoeth o adnoddau a chanllawiau a fydd yn eich galluogi i gael effaith barhaol yn eich meysydd dewisol a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi a’ch grymuso i archwilio a gwerthuso syniadau newydd, gan ddatblygu ymarfer proffesiynol arloesol.
Byddwch yn cael y rhyddid i weithredu newid cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch adran.


Ymuno â’n cymuned
Rydym yn chwilio am academwyr brwdfrydig a phenderfynol i ymuno â ni ar ein taith o fod yn Rhagorol i Eithriadol. Mae’n prifysgol yn ymfalchïo mewn meithrin diwylliant o ddysgu, ymchwil ac ymgysylltu â’n cymuned, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Rydym yn ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall ein staff ffynnu a chael effaith sylweddol a pharhaol.
Bywyd ym Met Caerdydd