Swyddi Gwag Diweddaraf
Gweld pob Swydd WagCynorthwy-ydd Gweithrediadau
Campws Cyncoed
Gweithio gydag effaith
Ers 1865, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi arwain trawsnewid addysgol a chymdeithasol, mae’n gatalydd ar gyfer arloesi, ac yn gyfrannwr allweddol at dwf cynhwysol a chynaliadwy. Mae’n hymchwil a’n harloesedd yn gweddnewid bywydau a chymunedau drwy addysg effaith uchel o ansawdd uchel.
Yn ogystal â’n dau gampws yng Nghaerdydd rydym yn cydweithio ag ysgolion, colegau, busnesau, elusennau, llywodraethau a chymunedau’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys ein partneriaethau addysg trawsgenedlaethol helaeth. Rydym yn gweithio gyda phwrpas, brwdfrydedd ac effaith i helpu economïau i ffynnu, cymdeithasau i ddathlu cydraddoldeb, i gyfoethogi diwylliannau, gwella amgylcheddau a gwella iechyd ein cymunedau.
Twf a dysgu personol
Ym Met Caerdydd rydym yn darparu amgylchedd sy’n cyfoethogi a chefnogi ein staff, gan gynnig cyfleoedd eithriadol ar gyfer datblygu gyrfa a dysgu parhaus. Gwyddom werth buddsoddi yn nhwf a datbygiad personol ein staff.
Drwy gasgliad o raglenni datblygu proffesiynol, gweithdai a chyfleoedd mentora, gallwch ehangu’ch setiau sgiliau ym Met Caerdydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau’r diwydiant gan feithrin twf personol a phroffesiynol.
Bywyd ym Met Caerdydd

Ymunwch â’n cymuned
Mae ein timau Gwasanaethau Proffesiynol yn cyflawni rôl ganolog i gyflawni’n gweledigaeth a helpu i lywio llwyddiant ein myfyrwyr – nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn gweithio gyda phwrpas a brwdfrydedd – mewn partneriaeth bob amser. Rydym yn ymddiried yn ein pobl i feddwl yn wahanol, croesawu newid a gwneud pethau’n well.
Mae gwasanaethau proffesiynol ym Met Caerdydd yn cynnwys amrywiaeth o rolau, o Gyllid a Chaffael i Gynaliadwyedd ac Arlwyo.
Gweld ein holl swyddi gwag