Swyddi Gwag Diweddaraf
Yn anffodus nid oes unrhyw gyfleoedd i fyfyrwyr ar hyn o bryd. Edrychwch ar ein cyfleoedd eraill, neu gofrestru i dderbyn hysbysiadau swyddi heddiw!

Cyfleoedd i Fyfyrwyr
Ymunwch ag i helpu i lywio dyfodol y Brifysgol. Rydym yma i ddatblygu sgiliau a doniau’n myfyrwyr, a gyda chymysgedd eang o swyddi gwag ar gael, byddem yn falch o glywed gennych chi.
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr yn cael eu cynnig ar sail y wybodaeth, y sgiliau a’r galluoedd y gallwch chi eu cynnig i’r swydd, nid eich profiad. Dyma’ch cyfle i ennill profiad cyflogaeth a chael y blaen yn eich gyrfa, neu i ennill arian ychwanegol wrth ddatblygu sgiliau i gefnogi’ch rhagolygon gyrfa ar ôl graddio. Bydd rhai cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd yn unig, ac o bryd i’w gilydd byddwn yn hysbysebu cyfleoedd sy’n agored i fyfyrwyr y tu allan i Met Caerdydd ymgeisio amdanynt hefyd.
I sicrhau cydbwysedd da rhwng gwaith ac astudio rydym yn argymell na ddylai myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig llawn amser weithio mwy nag 16 awr yr wythnos yn ystod y tymor. Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, sicrhewch eich bod chi’n ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau sydd gennych ar yr oriau a gallwch weithio. Mae fisa myfyriwr ar gyfer astudiaethau lefel gradd llawn amser yn caniatáu i fyfyriwr weithio uchafswm o 20 awr yr wythnos yn ystod y tymor fel arfer. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol.
Interniaethau
Interniaeth yw cyfnod o brofiad gwaith â thâl, sy’n para am gyfnod penodol o hyd at 12 mis. Mae interniaethau’n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn maes gwaith penodol, a datblygu rhwydweithiau proffesiynol. Maent yn cynnig profiad gwaith proffesiynol gyda hyfforddiant llawn a chymorth, a help i lywio’ch cynlluniau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein hinterniaethau ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd, a’r rhai nad ydynt yn astudio gyda ni ar hyn o bryd. Edrychwch ar ein cyfleoedd presennol drwy ddefnyddio’n hadnodd chwilio uchod.
Cofiwch, os ydych chi’n fyfyriwr ym Met Caerdydd, mae gennych fynediad i MetHub hefyd lle gallwch chwilio am interniaethau mewn sefydliadau eraill. Efallai y cewch gyfle hefyd i gwblhau interniaeth neu leoliad fel rhan o’ch astudiaethau. Cysylltwch â’ch Tîm Lleoliad Ysgol am Gymorth.


Cyfleoedd i Raddedigion
Llongyfarchiadau ar gwblhau’ch astudiaethau! Fel rhywun sydd wedi graddio, efallai eich bod yn chwilio am eich swydd gyntaf, newid eich gyrfa, neu gyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
Mae Met Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd academaidd a phroffesiynol/cymorth sy’n addas i raddedigion sydd ar unrhyw gam o’u gyrfa: o gyfleoedd lefel mynediad i arweinyddiaeth. Rydym yn eich annog i edrych ar ein holl gyfleoedd i sicrhau nad ydych yn colli’r cyfle i fanteisio ar eich cam nesaf yn eich gyrfa! Cliciwch isod i weld ein cyfleoedd academaidd a phroffesiynol/cymorth.
Os ydych chi wedi graddio o Met Caerdydd gallwch barhau i dderbyn cymorth gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd hyd at dair blynedd ar ôl graddio. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Gwasanaethau Gyrfaoedd ac Adnoddau Ymgeisio
Mae ymgeisio am swydd yn gallu bod braidd yn frawychus weithiau. I’ch helpu chi i sicrhau’r canlyniad gorau posibl, mae gennym gasgliad o adnoddau i’ch cynorthwyo chi gyda’r broses, o wneud cais i gael cynnig swydd. Neilltuwch amser i ddarllen ein tudalen ganllawiau ar wneud cais sy’n cynnwys canllawiau amrywiol ar wneud cais am swydd. Gallwch gysylltu â’r tîm recriwtio hefyd ar staffrecruitment@cardiffmet.ac.uk neu ar 029 2041 7317.
Gall ein tîm Gwasanaethau Gyrfaoedd ddarparu adnoddau a gwasanaethau amrywiol i fyfyrwyr presennol a graddedigion Met Caerdydd, gan gynnwys digwyddiadau gyrfaoedd, cyngor ar ysgrifennu CV a chymorth cyffredinol gyda gyrfaoedd. Gallwch fynd i MetHub hefyd sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gyfleoedd allanol yn cynnwys interniaethau, gwaith rhan-amser a gwaith gwirfoddol. Mae croeso i chi gysylltu â’n Gwasanaethau Gyrfaoedd ar careers@cardfiffmet.ac.uk.
